Thursday 4 September 2008

Cefnogaeth Prif Weithredwr Mantell Gwynedd

“….mae Dafydd Iwan wedi bod yn ffigwr allweddol bwysig o fewn y Trydydd Sector yng Ngwynedd a thu hwnt. Bu ei gyfraniad at waith a datblygiad y Trydydd Sector yng Ngwynedd yn sylweddol dros nifer fawr o flynyddoedd. Mae yn ddyn a chanddo weledigaeth arbennig, ac mae ganddo wir ddealltwriaeth o bobl a chymunedau”

Bethan Russell Owen
Prif Weithredwr
Mantell Gwynedd
(cyngor sirol gwirfoddol sy’n gofalu am y Trydydd Sector yng Ngwynedd)

Saturday 23 August 2008

Helen Mary'n cefnogi Dafydd

Dywedodd Helen Mary Jones AC Llanelli mewn datganiad:
"Dwi'n falch o gefnogi ymgyrch Dafydd Iwan i barhau fel Llywydd Plaid Cymru. Credaf fod gan y llywydd ddwy rol allweddol: arwain ac ysbrydoli adain wirfoddol y Blaid, a gweithredu fel dolen gyswllt rhwng yr aelodau a'r arweinyddiaeth. Mae Dafydd yn ddelfrydol ar gyfer y ddwy dasg. Bu bob amser yn ysbrydoliaeth mawr i mi, drwy ein hatgoffa beth yw calon ac enaid y Blaid, a'n hatgoffa am y gwerthoedd radical a'n dyheadau fel cenedl a'n denodd i'r Blaid yn y lle cyntaf.

Rydym wedi gwneud cynnydd mawr yn ystod cyfnod Dafydd fel Llywydd, ac y mae ganddo ran bwysig i'w chwarae wrth inni yrru hyn ymhellach, yn enwedig wrth gefnogi ac ysgogi'r aelodau".

Thursday 21 August 2008

Sioe Hwllfordd








Roedd ddoe yn ddiwrnod prysur arall o ymgyrchu yn Sioe Hwlffordd. Fe gwrddais â nifer o aelodau a chefnogwyr - cyfle gwych i glywed eich barn a thrafod materion o bwys.

















































Monday 18 August 2008

Llywydd yn estyn llaw i ieuenctid Belarws

DATGANIAD I'R WASG

Treuliodd Dafydd bnawn heddiw yn ardal Dolgellau gyda phobl ifanc o Belarws sy'n treulio
peth amser yng Nghymru. Mae pob un o'r bobl ifanc hyn wedi diodde salwch difrifol o ganlyniad
i ffrwydrad Chernobyl, a phob haf mae nifer yn dod i Gymru, diolch i rai fel Olwen Davies, Aberystwyth, (Is-Gadeirydd CND Cymru) a welir hefyd yn y llun.

Thursday 14 August 2008

Neges o gefnogaeth gan Janet Ryder AC

"Mae Dafydd wedi helpu i ailgysylltu'r blaid gyda'i haelodau ac wedi codi ein hyder. Mae llawer i'w wneud o hyd i baratoi'r blaid ar gyfer yr etholiadau nesaf ac mae angen llywydd sydd wedi ymrwymo i bolisiau chwyldroadol i adeiladu'r blaid a'i haelodau. Dwi'n hyderus bod y gallu gan Dafydd i wneud hyn a dyna pam dwi'n ei gefnogi fel llywydd."


Janet Ryder AC

Wednesday 13 August 2008

Dathlu 50 mlynedd yn y Blaid

Diolch i bawb a ddaeth i stondin y Blaid ar y Maes Ddydd Gwener i'r parti pen-blwydd! Prif bwrpas hyn wrth gwrs yw tynnu sylw at y ffaith fod nifer ohonom wedi bod yn ymgyrchu am sbel go hir, ond rhaid peidio gorffwys ar ein rhwyfau. Mae rhai blynyddoedd o waith caled eto o'n blaenau cyn y gwelwn y Gymru Rydd. Ond diolch eto am ddod i'r parti - ac roedd y gacen yn dda!

Diolch hefyd i bawb a ddaeth i Glwb y Llywydd yn ein swyddfa newydd Nos Iau. Cafwyd noson i'w chofio yng nghwmni'r gwesteion arbennig, Mari Gravell a'r merched Manon a Gwenan. Cafwyd atgofion digri a dwys, a thra phwrpasol gan Lis Miles yr actores a'r Bleidwraig frwd, a chaneuon hyfryd gan y gantores o Gaerdydd Heather Jones.

Enwebwyd gan:

Rwy'n falch iawn i fod wedi fy enwebu ar gyfer swydd y Llywydd gan y canghennau a'r adrannau canlynol:

Cangen Abertawe Gorllewin
Rhanbarth Arfon
Cangen Bontnewydd
Cangen Bro Ingli
Cangen Caerfyrddin
Cangen Canol Rhondda
Cangen Canton/Llandaf/Radyr
Cangen Cwm Cynon
Cangen Dinas Powis
Cangen Dyffryn Ogwen
Rhanbarth Etholaeth Rhondda
Cangen Fairwater
Cangen Llanelli
Cangen Llangyndeyrn
Cangen Pontypridd
Cangen Treherbert
Rhanbarth Ynys Môn