Wednesday 30 July 2008

Cefnogaeth Ymgeiswyr Seneddol

Fel ymgeisyddion seneddol dros Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf, edrychwn ymlaen at weld Elfyn Llwyd yn arwain ymgyrch etholiadol lwyddiannus. Mae ganddo'r profiad a'r parch sydd ei angen nid yn unig i arwain yr ymgyrch honno, ond hefyd i arwain grwp mwy o ASau Plaid Cymru yn San Steffan yn y tymor seneddol dilynol.

Dymunwn fynegi ein cefnogaeth i Elfyn Llwyd a Dafydd Iwan yn eu swyddi presennol. Galwn ar aelodau i gefnogi Dafydd Iwan yn yr etholiad mewnol am lywyddiaeth y Blaid, gan ein bod yn argyhoeddedig fod y llywyddiaeth yn swyddogaeth benodol, mewnol yn bennaf, na ellir ei chyfuno'n hwylus gyda swyddogaeth fawr arall yn arweinyddiaeth y blaid oherwydd yr ymrwymiad mawr mewn amser sydd ynghlwm wrth arwain ac wrth weithio gydag adain wirfoddol y blaid.

Myfanwy Davies, Darpar Ymgeisydd Seneddol, Llanelli
Dafydd Trystan, Darpar Ymgeisydd Seneddol, Cwm Cynon
Steffan Lewis, Darpar Ymgeisydd Seneddol, Islwyn

Monday 28 July 2008

Etholiad y Llywydd - Hystingau

Isod ceir manylion yr hystingiadau a drefnwyd ar gyfer etholiad y Llywydd. Tra fo'r hystingiadau'n bwysig, dydyn nhw ddim yn rhoi cyfle i aelodau drafod pynciau mewn unrhyw ddyfnder. Byddaf felly ar gael dros yr haf i drafod gydag aelodau. Mi fyddaf ar stondin y Blaid yn yr Eisteddfod drwy gydol yr wythnos. Byddaf hefyd ym marbeciw Cangen Canton ar ddydd Sul Awst 3ydd (tafarn y Duke of Clarence, Heol Clive o 2 o'r gloch ymlaen). Os oes pynciau llosg gennych yna dewch i gael sgwrs. Fel arall, gall aelodau fy ebostio ar dafyddiwan@cymru1.net

Bangor (Neuadd Powis, Prifysgol Bangor University) 28.07.08 - 7.30pm-8.30pm

Wrecsam (Ystafell Glanyrafon Room, Y Stiwt, Rhosllanerchrugog) 29.07.08 - 7.30pm-8.30pm

Abersytwyth (Gwesty'r Marine Hotel) 30.07.08 - 7.30pm-8.30pm

Llandysilio (Gwesty Nantyffin Hotel) 01.08.08 - 7.30pm- 8.30pm

Caerdydd / Cardiff (Ystafell Taf Suite, Athrofa Chwaraeon Cymru / Welsh Institute of Sport, Sophia Gardens) 2.08.08 - 10.30am-11.30am

Llanelli (Ystafell Lliedi, ger/by Canolfan Samuel Selwyn) 19.08.08 - 7.30pm-8.30pm

Blaenau Ffestiniog (Neuadd Chwaraeon / Sports Hall, Heol Wyn) 20.08.08 - 7.30pm-8.30pm

Monday 21 July 2008

Cefnogaeth gan aelodau cyffredin

Y bobl orau i feirniadu fy mherfformiad fel Llywydd ydi aelodau'r Blaid. Pe hoffech i mi fod yn Llywydd y Blaid, hoffwn wybod pam.

Dyma'r negeseuon diweddaraf o gefnogaeth i mi eu derbyn yn ystod fy ymgyrch i fod yn Llywydd:

“Mae’n anrhydedd gennyf gefnogi Dafydd Iwan yn Llywydd y Blaid. Mae yn rhaid i’r Blaid gael Llywydd sydd yn barod i weithio yn ddiflino trosti, ac sydd a’r gallu i asio ei haelodau at ei gilydd. Mae’n rhaid i’r Llywydd ysbrydoli yr aelodau a chreu y bont rhyngddynt â’r gwleidyddion etholedig. Mae’n rhaid i’r Llywydd fod yn wleidydd o argyhoeddiad. Mae Dafydd yn meddu ar hyn i gyd. Rhown ein cefnogaeth iddo.”
Richard Parry Hughes, Arweinydd Cyngor Gwynedd, 2002 - 08

"Mae Dafydd Iwan yn berson sydd a gweledigaeth: i weld Cymru yn cyflawni ei llawn botensial ac yn cymryd ei lle priodol ymysg cenhedloedd y byd. A hynny er mwyn gweld trefn decach o lywodraethu yng Nghymru ac yn fyd-eang. Trefn yn seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol, cydweithrediad rhyngwladol a heddwch. Ac mae gweledigaeth Dafydd yn fyw trwy ei wleidydda ar bob lefel yng Nghymru a thu hwnt. Wrth i ni edrych ymlaen at y camau nesaf yn ein taith tuag at hunan lywodraeth, mae angen sgiliau Dafydd arnom fel Plaid yn fwy nac erioed. Y gallu i ysbrydoli, y gallu i herio, y gallu i wrando a'r gallu i ddyfalbarhau. Dafydd yw'r dyn i'n harwain ni -aelodau'r Blaid - yn ystod y blynyddoedd cyffrous nesaf."
Cynghorydd Dyfed Edwards, Cyngor Gwynedd

I ddatgan cefnogaeth gyhoeddus imi fel Llywydd ebostiwch eich sylwadau at dafyddiwan@cymru1.net

Ffermio- mae'n gwarchod amgylchedd, Cefn Gwlad a'n diwylliant

DATGANIAD I'R WASG

Ar drothwy’r Sioe Fawr, mae Llywydd Plaid Cymru wedi gwneud datganiad cryf o blaid amaethyddiaeth, gan bwysleisio fod ein rhwydwaith o ffermydd teulu yng Nghymru yn ffordd o warchod ein hamgylchedd naturiol, cymunedau cefn gwlad, a’n hiaith a’n diwylliant fel Cymry.

Meddai Dafydd Iwan: “ Y camgymeriad sy’n cael ei wneud gan wleidyddion yn rhy aml yw mesur gwerth amaeth fel unrhyw ddiwydiant arall, yn ol trosiant ac elw a nifer swyddi. Ond yr hyn sy’n gwneud ffermio’n wahanol i ddiwydiannau eraill yw ei fod yn cynnal ffordd o fyw, yn cynnal cymunedau, yn fodd i gadw pobl ifanc yng nghefn gwlad, ac ar yr un pryd yn gyfle gwych i warchod ein hetifeddiaeth a’n hamgylchedd naturiol”.

“Wrth gwrs mae pawb yn sylweddoli bellach fod yn rhaid i amaethyddiaeth newid: rhaid rhoi mwy o bwyslais ar gynllunio amgylcheddol, ar amrywio sgiliau ein pobl ifanc, ac ar ychwanegu gwerth i’n cynnyrch a’i farchnata’n fwy effeithiol. Ond yr un pryd, rhaid i wleidyddion sylweddoli na fedrwn ni gynnal cymunedau gwledig na bod yn fwy hunan-gynhaliol mewn bwyd heb ddiwydiant amaethyddol iach a ffyniannus”.

“Dyma pam yr wyf yn croesawu y bwriad i lacio rheolau cynllunio gwledig, a’i gwneud yn haws i adeiladu cartrefi fforddiadwy i bobl leol yn eu cynefin yn nghefn gwlad.”

Friday 18 July 2008

Maniffesto- Pont i'r Dyfodol

Ryden ni’n byw yn un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous yn holl hanes Plaid Cymru.
Rydym yn rhoi arweiniad a gweledigaeth i’n Llywodraeth Genedlaethol ac yn chwarae rhan amlwg wrth redeg cymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae ein hamser fel plaid wedi cyrraedd, ac y mae’r blynyddoedd nesaf yma’n cynnig cyfleon aruthrol – i ennill senedd go iawn, i ddod yn brif blaid Cymru, ac i osod mewn lle y fframwaith i sicrhau dyfodol yr iaith am genedlaethau.

Mae’r cyfleon yn enfawr. Ond gyda chyfleon daw cyfrifoldeb, ac yn cyd-redeg gyda’n cyfleon a’n cyfrifoldebau mae yna sialens – sialens cyfnod gwleidyddol newydd, a’r her o adeiladu Plaid Cymru gryfach, mwy bywiog a mwy egniol.
Rwyf wedi ystyried yn ddwys cyn rhoi fy enw ymlaen am un tymor arall o ddwy flynedd fel Llywydd. Ond po fwyaf y meddyliwn am y sialens sydd o’n blaenau, yna mwyaf yr oeddwn am chwarae rhan yn y gwaith o adeiladu plaid gryfach wrth inni greu dyfodol gwell i’n cenedl.

Fel plaid, rydym wedi tyfu’n llawer mwy proffesiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Daethom yn blaid mewn llywodraeth am y tro cyntaf, ac enillwyd etholiadau ym mhob cwr o’r wlad. Ond wrth inni gamu i’r cyfnod nesaf o’n datblygiad, wynebwn ddewis pwysig. Gallwn ddatblygu ymhellach y rhaglen i broffesiynoli, gyda mwy o aelodau etholedig, a mwy o gyfrifoldebau i aelodau’r staff, fel y gwnaeth Llafur Newydd yn y 90au. Ac ar un lefel, roedd hynny’n llwyddiannus iawn, ond pa les i ddyn yw ennill yr holl fyd a cholli ei enaid? Mae ein traddodiad ym Mhlaid Cymru yn hollol wahanol i Lafur Newydd. Mae’n traddodiad ni yn un o ddibynnu arnom ni’r aelodau i redeg y blaid, i wneud y penderfyniadau sy’n cyfri, ac i’n symud ymlaen. Wrth inni edrych i’r dyfodol, rhaid ail-rymuso’r blaid, a dod a’n haelodau i reng flaen ein gweithgarwch – oherwydd os ydym am lwyddo, fel y gwn y gwnawn, yna rhaid adeiladu’r llwyddiant hwnnw ar gyfranogiad effeithiol ein haelodau yn ein gwaith.

Gwleidydd llawr gwlad ydw i wedi bod erioed, a dyna pam y credaf, wrth inni ddiffinio o’r newydd y berthynas rhwng y llywodraeth, y blaid a’r aelodau etholedig, fod angen mwy nag erioed inni gael gwleidydd llawr gwlad fel Llywydd. Llywydd sydd a’i fryd ar fod yn bont, - yn bont i ddyfodol gwell i’r blaid, yn bont rhwng yr aelodau a’n gwleidyddion proffesiynol, ac yn bont i Gymru a fydd yn llywodraethu ei hun.

Tros Gymru,

Dafydd Iwan

FY MLAENORIAETHAU – 1 – Y BONT
Nawr yn fwy nag erioed yn fy marn i, mae’r Blaid angen Llywydd sy’n gallu siarad ar ran yr aelodau a bod yn bont rhyngddyn nhw’r a’r aelodau etholedig.
Treuliais ddegawdau yn cydweithio gyda’n harweinwyr etholedig, gyda Ieuan, Jill, Elfyn; y ddau Ddafydd, a Gwynfor o’u blaen hwythau; a gwn yn dda am y gwaith anferthol maen nhw’n ei gyflawni’n ddyddiol. Gwn hefyd gymaint mae’n haelodau etholedig yn dibynnu ar aelodau’r blaid led-led Cymru i ymgyrchu, i godi arian, ac i weithio yn ein cymunedau. Rhaid i’n haelodau deimlo eu bod yn rhan allweddol o waith y Blaid.

Rwyf am glywed barn yr aelodau ar sut y gall y Llywydd weithredu orau fel pont. Ond dyma rai syniadau y carwn eu rhoi ar waith yn ystod y ddwy flynedd nesaf:

· Hawl i Holi parhaol. Cyn pob Pwyllgor Gwaith a Chyngor Cenedlaethol, hoffwn roi cyfle i bob aelod holi cwestiwn yn syth i’r Llywydd. Corff bychan yw’r Pwyllgor Gwaith, ac nid pawb sy’n gallu mynychu’r Cyngor – ond carwn roi llais i bob aelod. Gwnaf yn siwr y bydd pob ymholiad yn cael ei ateb, a byddaf yn creu adran “Cwestiynnau sy’n cael eu gofyn yn amal” i’w gyhoeddi ar fy ngwefan.

· Arolygon aelodaeth rheolaidd i greu cyngor ac awgrymiadau ar ymgyrchoedd. Dylem ystyried hefyd arolygon barn ar rai o’r prif faterion sy’n wynebu’r Blaid. Y bwriad yma fyddai creu sail cryf o aelodau gweithgar yn bwydo’u syniadau drwy’r Llywydd i’r aelodau etholedig.

· Datblygu Adran y Llywydd ar wefan y Blaid gydag elfennau rhyngweithiol, fideo a newyddion.

FY MLAENORIAETHAU – 2 – AELODAU
Heb ein haelodau, nid oes yna blaid. Mae teithio hyd a lled Cymru i Ganghennau ac Etholaethau, i gwrdd a siarad gyda’r aelodau yn rhan greiddiol o waith y llywydd. Ein haelodau yw ein carreg sylfaen, a dylem wneud pob ymdrech i wneud ein haelodau yn rhan o’n gweithgarwch fel plaid. Ein haelodau hefyd yw’r bont i’n cymunedau lleol, i godi materion o gonsyrn, i wneud yn siwr fod y blaid yn gwrando ar flaenoriaethau pobol, a gadael inni wybod os nad ydym yn gwneud pethau’n hollol iawn! Dros y ddwy flynedd nesaf fel Llywydd, rwyf am wneud yn siwr fod aelodau yn ganolog i’n gwaith.
Byddaf yn:

· Parhau I annog ac ysbrydoli aelodau ac yn cychwyn rhaglen ragweithiol I ymweld â phob etholaeth o leiaf unwaith yn ystod tymor y swydd.

· Gweithio'n agos gyda Cymru X I gynnal a datblygu ein haelodau Ifanc. Ein hieuenctid yw'r dyfodol, ond yn rhy aml mae CymruX a'n haelodau Ifanc yn eilbeth. Mae llwyddiant CymruX yn allweddol os ydym am adeiladu plaid a chenedl gryfach.

· Cefnogi datblygiad yr Adrannau Cenedlaethol. Daw'r Adrannau ag aelodau newydd I'r blaid, a gallant fod yn ganolog I'n cefnogaeth, yn enwedig gydag aelodau sy'n newydd I wleidyddiaeth plaid. Rhaid cefnogi'n Hadrannau yn gendlaethol gydag dnoddau ac amser.

· Bywiogi'r Gynhadledd gyda dadleuon ar faterion amserol, mwy o ddefnydd o fforymau'r We, a defnyddio'r dechnoleg ryngweithiol I ledaenu'r gynulleidfa o neuadd y Gynhadledd I bob aelod.

· Defnyddio'r dechnoleg newydd I'r eithaf I hybu neges y Blaid, boed yn fideos Youtube, blogio neu "ynys" I'r Blaid ar "Second Life" hyd yn oed. Fel plaid ddeinamig a modern, rhaid manteisio ar bob datblygiad technolegol I ledaenu'n neges.

· Defnyddio Clwb y Llywydd mewn ffyrdd newydd a chael cyfarfodydd lleol, a sesiynau strategaeth I aelodau'r Pwyllgor Gwaith a staff allweddol.

FY MLAENORIAETHAU - 3 - YMREOLAETH I GYMRU
Fel plaid, cymerwyd camau breision ymlaen dros y blynyddoedd diweddar. I'r rhai a fu byw drwy dorcalon 1979 a blynyddoedd Thatcher, mae'r cynnydd wedi bod yn syfrdanol. Serch hynny, megis dechrau yr yden ni. Os ydym mewn gwirionedd am sylweddoli ein potensial fel pobol ac fel cenedl, dim ond fel cenedl annibynnol y gallwn wneud hynny. Yn ein Cynhadledd yng Nghasnewydd, cyfeiriodd Elin Jones at y rhwystredigaeth o gynrychioli Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Ewrop, wrth I genhedlodd llai na Chymru gael llais ar y Cyngor, a ninnau mewn sedd gefn. Ac wrth gwrs mae sawl enghraifft arall o'r modd y mae Cymru yn colli o fod yng nghysgod ein cymydog I'r dwyrain!

Rhaid Inni wneud yr achos dros fwy o hunan-lywodraeth I Gymru, ac yn y pen draw dros annibyniaeth, yn glir ac yn hyderus. Mae ein chwaer blaid yn yr Alban wedi dangos y ffordd wrth gyfuno gweledigaeth am Alban annibynnol gyda safon uchel o lywodraethu. Rhaid I ninnau gyfuno'n effeithlonrwydd mewn llywodraeth gydag ymgyrchu effeithiol dros ein nod tymor hir.
Rwyf am weld:

· Plaid Cymru'n arwain y ffordd trwy wneud y gwaith manwl I egluro'r achos dros annibyniaeth.

· Plaid Cymru'n defnyddio etholiadau Ewrop fel llwyfan I ddangos sut mae gwledydd bychain, llwyddiannus ac annibynnol yn Ewrop yn brasgamu ymlaen tra bod Cymru mewn peryg o gael ei gadael ar ôl.

· Cyfres o bamffledi, podlediadau a fideos dan y teitl "Siarad am annibyniaeth" - I drafod y mater ac I agor allan y drafodaeth.

ADEILADU PLAID GRYFACH - DEWCH I MEWN!
Mae fy ngweledigaeth I o'r Llywyddiaeth wedi'I seilio ar gydnabod pwysigrwydd ein haelodau. Dwi am fod yn Llywydd y Bobol, yn bont tuag at ddyfodol cadarnach I'r Blaid ac I'n cenedl, ond ni allaf gyflawni hyn heb eich cefnogaeth chi.
Rhowch Imi eich syniadau, eich barn, ac hyd yn oed eich cwynion, oherwydd gyda'n gilydd gallwn adeiladu plaid gryfach.

Wednesday 16 July 2008

Neges gan Dafydd

Diolch i bawb sydd wedi fy enwebu, ac i bawb am y negeseuon o gefnogaeth. Wrth fynd o gwmpas Cymru dros yr wythnosau diwethaf, cefais dderbyniad twymgalon, ac rwy'n berffaith sicr y gallwn gryfhau'r Blaid gyda'n gilydd.

A'r hyn sydd wedi codi nghalon yn fwy na dim yw gweld y bobl ifanc yn closio mwyfwy at y Blaid. Dyw hi ddim wedi bod yn gyfnod hawdd i Cymru X, ond nawr dwi'n teimlo fod yr amser yn iawn i mi a Cymru X gyda'n gilydd ddenu mwy o bobl ifanc i ymgyrchu gyda'r Blaid.

Rhaid inni ddefnyddio'r Llywyddiaeth i greu pont gref rhwng aelodau llawr gwlad (sef y chi a fi) a'n haelodau etholedig. felly defnyddiwch fi fel eich cyfrwng i gael eich neges drosodd.

Edrychaf ymlaen i'ch gweld yn ystod yr ymgyrch,

Dafydd.

Enwebwyd gan:

Rwy'n falch iawn i fod wedi fy enwebu ar gyfer swydd y Llywydd gan y canghennau a'r adrannau canlynol:

Cangen Abertawe Gorllewin
Rhanbarth Arfon
Cangen Bontnewydd
Cangen Bro Ingli
Cangen Caerfyrddin
Cangen Canol Rhondda
Cangen Canton/Llandaf/Radyr
Cangen Cwm Cynon
Cangen Dinas Powis
Cangen Dyffryn Ogwen
Rhanbarth Etholaeth Rhondda
Cangen Fairwater
Cangen Llanelli
Cangen Llangyndeyrn
Cangen Pontypridd
Cangen Treherbert
Rhanbarth Ynys Môn