DATGANIAD I’R WASG – PRESS RELEASE – DATGANIAD I’R WASG Jill Evans ASE / MEP
Plaid Cymru – The Party of Wales yn Senedd Ewrop
I’w ryddhau ar unwaith
Jill Evans ASE yn cefnogi Dafydd Iwan yn y ras am lywyddiaeth y Blaid
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi datgan ei chefnogaeth i Dafydd Iwan yn ei ymgyrch i ennill Llywyddiaeth y Blaid, yn dilyn y gyfres o hystyngiadau sydd yn digwydd ar hyn o bryd mewn perthynas â’r swydd.
Dywedodd Jill heddiw:
"Mae Dafydd Iwan wedi bod yn ysbrydoliaeth i bobl drwy Gymru gyfan a thu hwnt. Rwyf innau wedi gweithio gydag ef ar sawl ymgyrch, gan gynnwys nifer yn ymwneud â’r mudiad heddwch. Cyfatebir ei ymroddiad i Gymru a’r iaith Gymraeg gan ei gred angerddol mewn heddwch, cyfiawnder a hawliau dynol.
"Bûm yn gweithio wrth ochr Dafydd yn ystod y pedair blynedd diwethaf yn rhinwedd fy swydd fel Is-Lywydd Plaid Cymru. Mae e’ wedi chwarae rhan hanfodol yn nhwf Plaid Cymru i fod yn rym gwleidyddol deinamig yng Nghymru. Dafydd yw’r cyswllt rhwng aelodau’r blaid ar lawr gwlad a’r tîm arweinyddol ac mae’n hanfodol ei fod yn parhau â’r gwaith yma."
Mae Dafydd Iwan wedi cyflwyno ei faniffesto ar ei wefan:
www.dafyddiwan.comAil-etholwyd Jill Evans ym mis Gorffennaf yn ddiwrthwynebiad fel Is-Lywydd Plaid Cymru. Mae hi’n cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop.
diwedd / ends