Tuesday, 12 August 2008

Sioe ("Primin") Mon



Ymunodd Dafydd Iwan heddiw gyda Dylan Rees, Darpar Ymgeisydd Seneddol y Blaid ar Ynys Mon, ar ran olaf ei daith brotest oamgylch y swyddfeydd post ar yr ynys sy'n cael eu bygwth gan gynlluniau'r llywodraeth. Cyrhaeddodd y ddau Gae Primin Mon i gael eu croesawu gan Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac AC Ynys Mon, a thorf o gefnogwyr. Roedd aelodau o'r Moniars yno i'w cyfarch gyda chan brotest newydd dros gadw'r Swyddfeydd Post.

Monday, 11 August 2008

Tibet Rhydd

Rhoddodd agoriad y Gemau Olympaidd gyfle imi alw unwaith eto am yr hawl i hunan lywodraeth i bobl Tibet ac am ail sefydlu eu hawliau dynol. Mae penderfyniad yr awdurdodau Tsieineaidd i wahardd baneri cenhedloedd di-wladwriaeth yn gysylltiedig â Thibet. Dylid bod hawl gan athletwyr o Gymru ddangos y Ddraig Goch yn lle Jac yr Undeb. Yr unig ffordd i sicrhau hyn yn y dyfodol ydi i gael tîm Olympaidd Cymreig.

Friday, 8 August 2008

Jill Evans ASE yn cefnogi Dafydd Iwan yn y ras am lywyddiaeth y Blaid

DATGANIAD I’R WASG – PRESS RELEASE – DATGANIAD I’R WASG Jill Evans ASE / MEP

Plaid Cymru – The Party of Wales yn Senedd Ewrop

I’w ryddhau ar unwaith

Jill Evans ASE yn cefnogi Dafydd Iwan yn y ras am lywyddiaeth y Blaid

Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi datgan ei chefnogaeth i Dafydd Iwan yn ei ymgyrch i ennill Llywyddiaeth y Blaid, yn dilyn y gyfres o hystyngiadau sydd yn digwydd ar hyn o bryd mewn perthynas â’r swydd.

Dywedodd Jill heddiw:

"Mae Dafydd Iwan wedi bod yn ysbrydoliaeth i bobl drwy Gymru gyfan a thu hwnt. Rwyf innau wedi gweithio gydag ef ar sawl ymgyrch, gan gynnwys nifer yn ymwneud â’r mudiad heddwch. Cyfatebir ei ymroddiad i Gymru a’r iaith Gymraeg gan ei gred angerddol mewn heddwch, cyfiawnder a hawliau dynol.

"Bûm yn gweithio wrth ochr Dafydd yn ystod y pedair blynedd diwethaf yn rhinwedd fy swydd fel Is-Lywydd Plaid Cymru. Mae e’ wedi chwarae rhan hanfodol yn nhwf Plaid Cymru i fod yn rym gwleidyddol deinamig yng Nghymru. Dafydd yw’r cyswllt rhwng aelodau’r blaid ar lawr gwlad a’r tîm arweinyddol ac mae’n hanfodol ei fod yn parhau â’r gwaith yma."

Mae Dafydd Iwan wedi cyflwyno ei faniffesto ar ei wefan: www.dafyddiwan.com

Ail-etholwyd Jill Evans ym mis Gorffennaf yn ddiwrthwynebiad fel Is-Lywydd Plaid Cymru. Mae hi’n cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop.

diwedd / ends

Is etholiad Cilfynydd

Bydd isetholiad cyngor sir dydd Mawrth nesaf (14 Awst) yn Rhondda Cynon Taf. Cynhelir yr etholiad oherwydd nad oedd yr ymgeisydd Rhyddfrydol a etholwyd yn gallu cymryd ei sedd ar y cyngor. Mae pobl Cilfynydd, pentref bach tu allan i Bontypridd, wedi rhoi croeso mawr i’r Blaid. Roeddwn yn hapus iawn gyda’r ymateb tra roeddwn yn canfasio yna ddydd Llun.

Stuart Fisher, sydd wedi gweithio’n galed ers amser hir dros y Blaid a thros ei gymuned, ydy’n hymgeisydd ni. Pob lwc Stuart - gwn y gwnewch gynghorydd ardderchog.

Os oes amser gennych i ganfasio yng Nghilfynydd yn ystod yr wythnos nesaf, cysylltwch â Geraint Day ar 07769657122.

Wednesday, 30 July 2008

Cefnogaeth Ymgeiswyr Seneddol

Fel ymgeisyddion seneddol dros Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf, edrychwn ymlaen at weld Elfyn Llwyd yn arwain ymgyrch etholiadol lwyddiannus. Mae ganddo'r profiad a'r parch sydd ei angen nid yn unig i arwain yr ymgyrch honno, ond hefyd i arwain grwp mwy o ASau Plaid Cymru yn San Steffan yn y tymor seneddol dilynol.

Dymunwn fynegi ein cefnogaeth i Elfyn Llwyd a Dafydd Iwan yn eu swyddi presennol. Galwn ar aelodau i gefnogi Dafydd Iwan yn yr etholiad mewnol am lywyddiaeth y Blaid, gan ein bod yn argyhoeddedig fod y llywyddiaeth yn swyddogaeth benodol, mewnol yn bennaf, na ellir ei chyfuno'n hwylus gyda swyddogaeth fawr arall yn arweinyddiaeth y blaid oherwydd yr ymrwymiad mawr mewn amser sydd ynghlwm wrth arwain ac wrth weithio gydag adain wirfoddol y blaid.

Myfanwy Davies, Darpar Ymgeisydd Seneddol, Llanelli
Dafydd Trystan, Darpar Ymgeisydd Seneddol, Cwm Cynon
Steffan Lewis, Darpar Ymgeisydd Seneddol, Islwyn

Monday, 28 July 2008

Etholiad y Llywydd - Hystingau

Isod ceir manylion yr hystingiadau a drefnwyd ar gyfer etholiad y Llywydd. Tra fo'r hystingiadau'n bwysig, dydyn nhw ddim yn rhoi cyfle i aelodau drafod pynciau mewn unrhyw ddyfnder. Byddaf felly ar gael dros yr haf i drafod gydag aelodau. Mi fyddaf ar stondin y Blaid yn yr Eisteddfod drwy gydol yr wythnos. Byddaf hefyd ym marbeciw Cangen Canton ar ddydd Sul Awst 3ydd (tafarn y Duke of Clarence, Heol Clive o 2 o'r gloch ymlaen). Os oes pynciau llosg gennych yna dewch i gael sgwrs. Fel arall, gall aelodau fy ebostio ar dafyddiwan@cymru1.net

Bangor (Neuadd Powis, Prifysgol Bangor University) 28.07.08 - 7.30pm-8.30pm

Wrecsam (Ystafell Glanyrafon Room, Y Stiwt, Rhosllanerchrugog) 29.07.08 - 7.30pm-8.30pm

Abersytwyth (Gwesty'r Marine Hotel) 30.07.08 - 7.30pm-8.30pm

Llandysilio (Gwesty Nantyffin Hotel) 01.08.08 - 7.30pm- 8.30pm

Caerdydd / Cardiff (Ystafell Taf Suite, Athrofa Chwaraeon Cymru / Welsh Institute of Sport, Sophia Gardens) 2.08.08 - 10.30am-11.30am

Llanelli (Ystafell Lliedi, ger/by Canolfan Samuel Selwyn) 19.08.08 - 7.30pm-8.30pm

Blaenau Ffestiniog (Neuadd Chwaraeon / Sports Hall, Heol Wyn) 20.08.08 - 7.30pm-8.30pm

Monday, 21 July 2008

Cefnogaeth gan aelodau cyffredin

Y bobl orau i feirniadu fy mherfformiad fel Llywydd ydi aelodau'r Blaid. Pe hoffech i mi fod yn Llywydd y Blaid, hoffwn wybod pam.

Dyma'r negeseuon diweddaraf o gefnogaeth i mi eu derbyn yn ystod fy ymgyrch i fod yn Llywydd:

“Mae’n anrhydedd gennyf gefnogi Dafydd Iwan yn Llywydd y Blaid. Mae yn rhaid i’r Blaid gael Llywydd sydd yn barod i weithio yn ddiflino trosti, ac sydd a’r gallu i asio ei haelodau at ei gilydd. Mae’n rhaid i’r Llywydd ysbrydoli yr aelodau a chreu y bont rhyngddynt â’r gwleidyddion etholedig. Mae’n rhaid i’r Llywydd fod yn wleidydd o argyhoeddiad. Mae Dafydd yn meddu ar hyn i gyd. Rhown ein cefnogaeth iddo.”
Richard Parry Hughes, Arweinydd Cyngor Gwynedd, 2002 - 08

"Mae Dafydd Iwan yn berson sydd a gweledigaeth: i weld Cymru yn cyflawni ei llawn botensial ac yn cymryd ei lle priodol ymysg cenhedloedd y byd. A hynny er mwyn gweld trefn decach o lywodraethu yng Nghymru ac yn fyd-eang. Trefn yn seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol, cydweithrediad rhyngwladol a heddwch. Ac mae gweledigaeth Dafydd yn fyw trwy ei wleidydda ar bob lefel yng Nghymru a thu hwnt. Wrth i ni edrych ymlaen at y camau nesaf yn ein taith tuag at hunan lywodraeth, mae angen sgiliau Dafydd arnom fel Plaid yn fwy nac erioed. Y gallu i ysbrydoli, y gallu i herio, y gallu i wrando a'r gallu i ddyfalbarhau. Dafydd yw'r dyn i'n harwain ni -aelodau'r Blaid - yn ystod y blynyddoedd cyffrous nesaf."
Cynghorydd Dyfed Edwards, Cyngor Gwynedd

I ddatgan cefnogaeth gyhoeddus imi fel Llywydd ebostiwch eich sylwadau at dafyddiwan@cymru1.net

Enwebwyd gan:

Rwy'n falch iawn i fod wedi fy enwebu ar gyfer swydd y Llywydd gan y canghennau a'r adrannau canlynol:

Cangen Abertawe Gorllewin
Rhanbarth Arfon
Cangen Bontnewydd
Cangen Bro Ingli
Cangen Caerfyrddin
Cangen Canol Rhondda
Cangen Canton/Llandaf/Radyr
Cangen Cwm Cynon
Cangen Dinas Powis
Cangen Dyffryn Ogwen
Rhanbarth Etholaeth Rhondda
Cangen Fairwater
Cangen Llanelli
Cangen Llangyndeyrn
Cangen Pontypridd
Cangen Treherbert
Rhanbarth Ynys Môn